Newyddion

Pam fod angen i'm busnes wybod am rwymedïau masnach?

Export - ship, plane, trucks

Os yw'ch busnes yn mewnforio neu'n allforio deunyddiau crai, rhannau a chydrannau, neu gynhyrchion gorffenedig, yna mae angen i chi wybod am rwymedïau masnach.

Mae rhwymedïau masnach yn fesurau sy'n cael eu cyflwyno gan lywodraethau i amddiffyn cynhyrchwyr domestig rhag y niwed a achosir iddynt gan ormod o fewnforion o gynhyrchion tebyg a/neu arferion annheg (megis pan fydd eu cystadleuwyr tramor yn derbyn cymorthdaliadau anghyfreithlon). Gallant hefyd gael eu cyflwyno gan lywodraethau mewn ymateb i bolisïau annheg ac anghyfreithlon a gyflwynwyd gan lywodraethau eraill sy'n cael effaith negyddol ar ddiwydiannau.

Mae rhwymedïau masnach yn cael eu cyflwyno ar ôl cwblhau ymchwiliad i asesu lefel y niwed y mae mewnforion yn ei achosi i gynhyrchwyr domestig, yn erbyn anghenion posibl rhanddeiliaid economaidd ehangach. 

Mae'r ymchwiliadau hyn yn cael eu cychwyn trwy gais i'r awdurdod perthnasol, sef yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach (TRA) ar gyfer y DU. 

Gall busnesau wneud ceisiadau unigol neu ar y cyd i’r TRA, er yn aml byddai'r gymdeithas fasnach berthnasol yn gwneud cais ar eu rhan. Gall y broses ymgeisio ac ymchwilio gyfan ar gyfer busnesau bach fod yn frawychus, gymryd llawer o amser, a bod yn ddwys o ran adnoddau, yn enwedig gan fod y TRA yn gofyn am ddata gweithredol a masnach amrywiol i gael eu darparu iddynt i gefnogi eu hymchwiliad. 

Serch hynny, dylai busnesau ymgysylltu â'r TRA ac amlinellu eu rhesymau pam eu bod am i unrhyw rwymedïau masnach gael eu cyflwyno, eu cynnal neu eu dileu, oherwydd heb eu gwybodaeth, gallai'r TRA golli gwybodaeth hanfodol a gwneud penderfyniad sy'n profi'n niweidiol. 

Defnyddiwch y dolenni canlynol i gael mwy o wybodaeth:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.