
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd, sef menter newydd sy’n ceisio trawsnewid tirwedd technoleg iechyd a chwaraeon yng Nghymru.
Wedi'i arwain gan Brifysgol Abertawe a'i gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a byrddau iechyd lleol, nod y Rhwydwaith yw cyflymu twf arloesi ym meysydd technoleg chwaraeon, technoleg feddygaeth a gofal iechyd yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gan ddod ag arbenigedd lleol, cenedlaethol ac amlwladol ynghyd.
Mae'r Rhwydwaith yn bartneriaeth ar y cyd rhwng y byd academaidd, diwydiant a'r GIG sy'n esblygu'n barhaus. Ei nod yw cryfhau partneriaethau presennol a meithrin cynghreiriau newydd gan ddenu dawn ac annog buddsoddiad er mwyn rhoi hwb i'r economi leol a gwneud Abertawe yn arweinydd yn fyd-eang ym maes arloesi technoleg feddygaeth a thechnoleg chwaraeon.
Os ydych chi'n gweithio ym meysydd technoleg chwaraeon, technoleg feddygaeth neu ofal iechyd a hoffech chi fod yn rhan o weledigaeth y rhwydwaith - i drawsnewid tirwedd technoleg iechyd a thechnoleg chwaraeon yng Nghymru - cofrestrwch nawr.
Gall arloesi helpu eich busnes i ddod yn fwy cystadleuol, gall roi hwb i’w werthiant a’i helpu i sicrhau marchnadoedd newydd.
Mae ein parth busnes ac arloesi wedi'i gynllunio fel y gallwch chi ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi. Gallwn eich helpu i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu (R&D), cyflwyno technegau a thechnolegau newydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu, diogelu eich asedau drwy hawliau eiddo deallusol (IP), a chael mynediad at gyfleusterau ac arbenigedd mewn prifysgolion a cholegau.