Newyddion

Momentum – Rhaglen Gyflymu i Sefydlwyr Dyslecsig

Business start up - colleagues in an office

Rhaglen gyflymu 8 wythnos am ddim i sefydlwyr dyslecsig ydy Momentum, wedi'i gynllunio gan Virgin StartUp ac wedi'i bweru gan y meddylfryd a wnaeth helpu i lunio'r byd modern.

Wedi'i chynllunio ar gyfer entrepreneuriaid sy'n meddwl yn wahanol, mae'n rhaglen sy'n dathlu datrys problemau creadigol, meddwl am y darlun ehangach a defnyddio’r dychymyg, nodweddion a geir yn aml mewn meddyliau dyslecsig. 

Os oes gennych chi’r penderfyniad, y weledigaeth a’r awydd i dyfu, bydd Momentum yn rhoi'r adnoddau, yr hyder, a'r gefnogaeth i chi wireddu hynny.

Pwy sy’n gallu wneud cais:

  • Y rhai sy’n uniaethu eu hunain fel person dyslecsig neu eich bod yn credu y gallai fod gennych chi nodweddion Meddwl Dyslecsig
  • Rydych chi'n sefydlydd sy'n rhedeg busnes yn y Deyrnas Unedig (DU)
  • Mae eich busnes wedi bod yn masnachu am o leiaf 3 mis
  • Mae gennych chi uchelgais glir i dyfu

Y dyddiad cau i wneud cais ydy 30 Medi 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i dderbyn mwy o wybodaeth: Rhaglen Virgin StartUp i Sefydlwyr Dyslecsig | Momentwm


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.