Newyddion

Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £2 miliwn i drawsnewid Venue Cymru

Jane Bryant - Venue Cymru

Mae canolfan adloniant a chynadledda flaenllaw Llandudno, sef y lleoliad mwyaf ond un ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru ar ôl Canolfan y Mileniwm, ar fin cael ei gwella'n sylweddol, a hynny o ganlyniad i fuddsoddiad o £2 filiwn gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Bydd yr arian yn cefnogi'r gwaith o adfywio'r lleoliad 30 oed, sydd ar hyn o bryd yn cyflogi 179 o bobl ac yn croesawu dros 300,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, gan gyfrannu £38.4 miliwn i economi'r rhanbarth.

Wedi'i ddyfarnu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, bydd yr arian newydd yn galluogi gwaith adnewyddu mewnol ac allanol hanfodol.

Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn ychwanegu at y £500,000 a mwy a ddarparwyd eisoes gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn 2024–25 i gefnogi gwaith uwchraddio brys ac mae'n rhan o brosiect Dyfodol Venue Cymru ehangach, sef menter gydweithredol sydd hefyd yn cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

I ddarllen y cyhoeddiad ewch i wefan LLYW.CYMRU: Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £2 miliwn i drawsnewid Venue Cymru | LLYW.CYMRU.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Trawsnewid Trefi, dilynwch y ddolen ganlynol: Trawsnewid Trefi: cymorth i wella canol trefi: Trawsnewid Trefi: cymorth i wella canol trefi: Y Rhaglen Trawsnewid Trefi | LLYW.CYMRU.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.