Newyddion

Keep Britain Working

Inclusive workplace

Mae Keep Britain Working yn adolygiad annibynnol o rôl cyflogwyr mewn iechyd ac anabledd.

Mae llywodraeth y DU wedi comisiynu adolygiad annibynnol anstatudol, dan arweiniad Syr Charlie Mayfield, i rôl cyflogwyr a llywodraeth y DU wrth fynd i'r afael ag anweithgarwch sy'n gysylltiedig ag iechyd a chreu a chynnal gweithleoedd iach a chynhwysol.

Bydd yn canolbwyntio'n benodol ar gydweithio i ddeall beth y gall cyflogwyr a'r llywodraeth ei wneud i gynyddu cyfraddau recriwtio a chadw pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor, a’u cyfraddau dychwelyd i’r gwaith, er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau i ffynnu mewn gwaith a darganfod sut orau i ddatgloi a chefnogi hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am yr adolygiad, dewiswch y ddolen ganlynol: Keep Britain Working Review: Discovery - GOV.UKKeep Britain Working: Terms of Reference - GOV.UK

Mae'r adolygiad ar ffurf ffurflen adborth sydd wedi'i hanelu'n bennaf at gyflogwyr a sefydliadau eraill sy’n rhanddeiliaid. Fodd bynnag, croesewir safbwyntiau gan weithwyr ac unigolion. Bydd y ffurflen yn cau am hanner nos ddydd Gwener 30 Mai 2025: Keep Britain Working Engagement Phase form (Page 1 of 7)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.