Newyddion

Innovate UK – cyfleoedd ariannu

group of entrepreneurs

Mae tîm Arloesi Llywodraeth Cymru yn cefnogi ceisiadau Cymreig i Raglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Gyflym (AKT 6) UKRI.

Gall sefydliadau academaidd y DU wneud cais am ran o £2.5 miiwn i helpu busnesau troi arloesedd yn effaith. Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau - 15 Gorffennaf 2026: Accelerated Knowledge Transfer Partnerships 6 (AKT 6) – UKRI.

Dysgwch fwy am gystadlaethau Ariannu diweddaraf Innovate UK isod:

Eagle Labs Female Founder Accelerator

Dros naw wythnos o ddosbarthiadau meistr, byddwch yn dysgu am strategaethau marchnata, gwerthu a thrafod, rheoli ariannol ac adeiladu tîm. Hefyd, byddwch chi'n cael mynediad at fentora un-i-un, grwpiau atebolrwydd, rhwydweithio cymunedol personol a'r gallu i gysylltu â chymuned o sylfaenwyr benywaidd o'r un anian. Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 12 Mehefin 2026.

ICURe Discover Sprint for Women Entrepreneurs

Mae'r rhaglen ddwys, 3 wythnos o hyd hon yn cefnogi ymchwilwyr a thechnegwyr benywaidd i archwilio potensial masnachol eu syniadau trwy fentora, darganfod cwsmeriaid, hyfforddiant i fusnesau newydd, a gweithgareddau dilysu’r farchnad wedi’u hariannu. Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 1 Mehefin 2026.

Open Business Creators Startup Fund 2026

Nod y Startup Fund yw cefnogi myfyrwyr a sylfaenwyr sy’n gyn-fyfyrwyr diweddar i adeiladu busnesau potensial uchel sy'n barod i dyfu, denu cwsmeriaid, a sefydlu momentwm masnachol cynaliadwy. Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 12 Mehefin 2026.

ICURe Discover for Women Entrepreneurs

Rhaglen archwilio marchnadoedd posibl, rhan-amser 8 wythnos ar-lein ar gyfer ymchwilwyr a thechnegwyr benywaidd, gyda hyd at £2,500 o gefnogaeth ar gyfer gweithgareddau darganfod marchnadoedd. Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 4 Medi 2026.

Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd ariannu sydd ar gael i fusnesau Cymru arloesi a buddsoddi mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesi. Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael mynediad at y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP26 - Cyfarfod Cefnogi Arloesi Ar-lein

Gall arloesi helpu'ch sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, i gynyddu gwerthiant, ac i fanteisio ar farchnadoedd newydd. Yma, gallwch weld pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu chi i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.