
Cydnabod y cyfraniadau eithriadol sy'n gwneud Gogledd Cymru yn lle gwych i ymwelwyr. Bydd Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn cael eu cynnal am y nawfed tro ddydd Iau 20 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno.
Ydych chi'n meddwl bod eich busnes chi ymysg y gorau yng Ngogledd Cymru? Dyma’ch cyfle i serennu! Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yw'r llwyfan perffaith i arddangos eich cyflawniadau, eich datblygiadau, a'ch ymroddiad i roi profiadau rhagorol i ymwelwyr.
Dyma gategorïau’r gwobrau eleni:
- Busnes Twristiaeth Newydd Gorau’r Flwyddyn
- Busnes Ystyriol o Anifeiliaid Anwes Gorau’r Flwyddyn
- Gwobr Twristiaeth Bro a Byd (Moesegol, Cyfrifol a Chynaliadwy)
- Bwyty Gorau’r Flwyddyn
- Bistro, Caffi neu Siop Goffi Orau’r Flwyddyn
- Gweithgaredd neu Brofiad Gorau’r Flwyddyn
- Atyniad Ymwelwyr Gorau’r Flwyddyn
- Gwesty Gorau’r Flwyddyn
- Llety Hunanarlwyo Gorau'r Flwyddyn
- Gwely a Brecwast, Tŷ Tafarn neu Westy Bach Gorau’r Flwyddyn
- Maes Glampio neu Wersylla neu Barc Carafannau Gorau’r Flwyddyn
- Parc Gwyliau Gorau'r Flwyddyn
- Digwyddiad Gorau’r Flwyddyn
- Marchnata a Chydnabyddiaeth Cyfryngau Orau’r Flwyddyn
- Gwasanaeth Twristiaeth / Cyflenwr Cynnyrch Gorau’r Flwyddyn
- Gwobr Person Ifanc mewn Twristiaeth a Lletygarwch
- Gwobr Mordaith Gogledd Cymru
- Gwobr Gwasanaeth i Dwristiaeth
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd hanner nos nos Sul 5 Hydref 2025.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: Go North Wales Tourism Awards