Newyddion

Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2020

Bydd Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2020 yn cydnabod cyflawniadau anhygoel busnesau newydd yn economi Cymru.

Categorïau gwobrau 2020 yw:

  • busnes newydd y flwyddyn ym maes gwasanaethau busnes i fusnes
  • busnes newydd y flwyddyn – Caerdydd
  • busnes adeiladu newydd y flwyddyn
  • busnes newydd y flwyddyn ym maes gwasanaethau i ddefnyddwyr
  • busnes creadigol newydd y flwyddyn
  • busnes seiber newydd y flwyddyn
  • busnes digidol newydd y flwyddyn
  • busnes newydd y flwyddyn ym maes gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
  • busnes FinTech newydd y flwyddyn
  • busnes bwyd a diod newydd y flwyddyn
  • busnes byd-eang newydd y flwyddyn
  • busnes newydd y flwyddyn gan fyfyriwr graddedig
  • busnes gwyrdd newydd y flwyddyn
  • busnes arloesol newydd y flwyddyn
  • busnes gweithgynhyrchu newydd y flwyddyn
  • busnes Medtech newydd y flwyddyn
  • busnes newydd y flwyddyn ym maes technolegau symudol a newydd
  • busnes newydd y flwyddyn ym maes manwerthu
  • busnes gwledig newydd y flwyddyn
  • menter gymdeithasol newydd y flwyddyn
  • busnes twristiaeth a hamdden newydd y flwyddyn
  • busnes newydd y flwyddyn yn y cymoedd
  • entrepreneur ifanc y flwyddyn
  • gwobr sêr newydd

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Mehefin 2020.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Gwobrau Busnesau Newydd Cymru.

Os ydych chi’n ystyried dechrau busnes, ewch i wefan Dechrau a Chynllunio Busnes Busnes Cymru am gyngor a chymorth.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.