Cynhelir Gwobrau Busnes Powys ddydd Gwener 8 Hydref 2021.
Bydd digwyddiad eleni yn wahanol iawn gan y bydd yn ddigwyddiad “Gyrru i mewn” ym maes parcio Campws Drenewydd NPTC, gyda llwyfannau a sgriniau yn yr awyr agored a bwyd a diodydd tecawê.
Mae’r gwobrau yn gyfle i bob busnes, menter gymdeithasol ac elusen ym Mhowys gystadlu am y cyfle i gyrraedd y rownd derfynol boed yn fusnesau mawr neu fach neu’n newydd neu’n bodoli ers tro.
Y categorïau eleni yw:
- Gwobr Dechrau Busnes
 - Gwobr Entrepreneuriaeth
 - Gwobr Microfusnes (Llai na 10 o weithwyr)
 - Gwobr Twf
 - Gwobr Busnes Bach (Llai na 30 o weithwyr)
 - Gwobr Prentis Eithriadol
 - Gwobr Menter Gymdeithasol/Elusen
 - Twf Busnesau Bach
 - Technoleg ac Arloesi
 
Bydd gwobr gyffredinol ar gyfer Busnes y Flwyddyn Powys 2021 yn cael ei dewis o blith enillwyr y categorïau.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw dydd Sadwrn 31 Gorffennaf 2021. Am ragor o wybodaeth ewch i www.powysbusinessawards.co.uk