Newyddion

Gwneud Cais i Gronfa Diwylliant Cymru Wrth-hiliol 2025 i 2026

Bangor University library - person standing looking at books

Cyllid grant i helpu mudiadau Diwylliant y sector lleol yng Nghymru i gyflawni canlyniadau gwrth-hiliol.

Mae cyllid refeniw o rhwng £10,000 a £20,000 ar gael rhwng canol Gorffennaf 2025 a chanol Mawrth 2026. Bydd cyllid o hyd at £25,000 yn cael ei ystyried ar gyfer ceisiadau eithriadol a chymhellol.

Mae'r grant refeniw yn helpu sefydliadau cymwys i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu diwylliannol yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • rhaglen hyfforddi / mentora gwrth-hiliaeth ar gyfer arweinwyr ac aelodau bwrdd
  • mentrau i wneud aelodaeth y bwrdd yn fwy amrywiol
  • datblygu pecyn cymorth a hyfforddiant i wella arferion recriwtio i gefnogi ceisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • cefnogi rhaglenni a gynlluniwyd ar y cyd rhwng cyrff cenedlaethol a sefydliadau sydd dan arweiniad pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • sefydlu canolfan meithrin gallu rhanbarthol i gefnogi mynediad at gyllid a thwf sefydliadau sydd dan arweiniad pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • defnyddio a rheoli casgliadau presennol a/neu archifau ac arteffactau newydd er mwyn gwella mynediad, gwella dealltwriaeth neu chwalu rhwystrau i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • ymchwil
  • gwaith ymgysylltu ac allgymorth gyda phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn adolygu prosesau a systemau yn ogystal â datblygu rhaglenni gwaith newydd

Er mwyn gwneud cais am gyllid, dylech:

  • fod yn sefydliad sector lleol sydd wedi'i leoli yng Nghymru / gweithio gyda sefydliadau perthnasol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, neu sy'n gweithredu yma.
  • fod yn gweithredu yn y sectorau Diwylliant, y Celfyddydau, Amgueddfeydd, Archifau, Llyfrgelloedd neu Dreftadaeth / gyda phrofiad o ymgysylltu neu gyflawni yn y sectorau hyn.
  • yn gallu cwblhau eich prosiect erbyn 20 Mawrth 2026 a hawlio erbyn 25 Mawrth 2026

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Mehefin 2025 am 5pm.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwneud Cais i Gronfa Diwylliant Cymru Wrth-hiliol 2025 i 2026 | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.