Newyddion

Gwahardd fêps untro: dau fis i fynd

single use vapes multi

Bydd cynhyrchion fêp untro yn cael eu gwahardd rhag cael eu gwerthu ledled y DU o 1 Mehefin 2025.

Mae fêps untro yn aml yn troi’n sbwriel neu’n mynd i dirlenwi. Bydd gwaharddiad yn stopio’r niwed maen nhw’n achosi i’r amgylchedd.

Dylai busnesau dechrau newid i gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio, yn barod ar gyfer y gwaharddiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at fanwerthwyr bach a chanolig ledled Cymru y nodwyd eu bod yn gwerthu neu’n cyflenwi fêps untro, ond mae’r gwaharddiad yn berthnasol i unrhywun sy’n gwerthu fêps untro ledled y DU.

Pan ddaw'r gwaharddiad i rym, bydd yn rhaid i fusnesau:

  • roi'r gorau i werthu cynhyrchion fepio untro i gwsmeriaid neu fusnesau eraill.
  • rhoi'r gorau i brynu cynhyrchion fepio untro oddi wrth gyfanwerthwyr.
  • dweud wrth eu staff a chwsmeriaid am y newidiadau hynny.

Dylai unrhyw un y bydd dal ganddynt gynhyrchion gwaharddedig siarad â chyflenwyr neu gwmnïau gwaredu ynghylch sut i'w hailgylchu'n ddiogel ac yn gyfreithlon, ar ôl 1 Mehefin.

Bydd methu ag ailgylchu stociau fêps untro ar ôl 1 Mehefin yn rhoi eich busnes mewn perygl o golledion masnachol a chamau gorfodi cyfreithiol. 

Ni ellir rhoi fêps untro yng ngwastraff y cartref a rhaid eu gwaredu'n ddiogel mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, neu gwmnïau gwaredu. Y rheswm dros hynny yw bod risg iddyn nhw, a deunyddiau cymysg, gan gynnwys batris, metel a phlastig, fynd ar dân.

Am ragor o wybodaeth ewch i'r ddolen ganlynol: Y gwaharddiad ar fêps untro: canllawiau ar gyfer busnesau | LLYW.CYMRU neu ebostiwch leq@llyw.cymru 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.