
Mae llifogydd dŵr wyneb neu fflachlifoedd yn digwydd pan nad yw dŵr glaw yn draenio i ffwrdd drwy’r systemau draenio arferol nac yn suddo i’r ddaear ond yn gorwedd ar y ddaear neu’n llifo drosti yn lle hynny. Gall hyn fod oherwydd dwyster a maint y glawiad, oherwydd bod y ddaear eisoes yn ddirlawn (yn llawn dŵr), neu oherwydd bod glaw yn disgyn ar arwynebau anathraidd, ee concrit.
Mae llifogydd dŵr wyneb yn dueddol o ddigwydd mewn ardaloedd mwy trefol fel trefi a dinasoedd, lle mae mwy o goncrit neu arwynebau caled eraill, gan na allant amsugno dŵr, tra bod glaswellt a phridd yn gallu gwneud hynny. Gall hefyd ddigwydd yn ystod cyfnodau o sychder, pan fydd y pridd wedi’i gywasgu ac yn methu amsugno dŵr.
Nid yw gwasanaeth rhybuddio am lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd am ddim, yn rhybuddio am ddŵr wyneb oherwydd gall y math hwn o lifogydd ddigwydd yn gyflym iawn ac yn aml yn lleol iawn, sy’n golygu nad oes amser i gyhoeddi negeseuon rhybudd ymlaen llaw.
Fodd bynnag, mae sawl ffordd o ddysgu mwy am y risg hon:
- gwiriwch rybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd a rhagolygon tywydd lleol
- perygl llifogydd pum diwrnod yn rhoi syniad os ystyrir bod llifogydd o’r ffynonellau hyn yn bosibl yn yr ardal ehangach yn ystod y pum diwrnod nesaf
- gwiriwch eich perygl llifogydd yn ôl cod post i weld y perygl o’r ffynonellau hyn. Gall hyn eich helpu i benderfynu a oes angen i chi gymryd camau i leihau eich risg
- gall eich awdurdod lleol roi rhagor o wybodaeth, cymorth a chyngor ar berygl llifogydd o ddŵr wyneb a nentydd bach
- gwiriwch lefel eich afon neu eich gorsaf glawiad neu fôr agosaf i gael syniad o’r amodau lleol
Gall pob busnes gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn barod am dywydd gwael. Er enghraifft:
- lluniwch gynllun llifogydd
- gosod systemau diogelu rhag llifogydd
- gwneud yn siŵr fod eich polisi yswiriant yn cynnwys difrod y bydd tywydd yn ei achosi i’ch eiddo -
- gwnewch yn siŵr bod gennych chi yswiriant addas, mae’r Association of British Insurers yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol. Mae yswiriant eiddo masnachol yn hynod berthnasol
- cael cynllun parhad busnes
- gwneud copïau o'ch dogfennau yswiriant a gwybodaeth gyswllt bwysig
- paratoi bag sy’n cynnwys eitemau hanfodol y gallwch gael gafael arno’n hawdd petai rhaid i’r adeilad gael ei wagio