
Mae'r amser yn mynd yn brin, ydych chi wedi sicrhau eich lle?
Dim ond ychydig wythnosau sydd ar ôl tan Expo Cwrdd â’r Prynwyr Busnes Cymru 2025, ac mae llefydd yn llenwi’n gyflym.
- Arena Abertawe – 10 Medi 2025
- Venue Cymru, Llandudno – 16 Hydref 2025
Mae’r digwyddiadau hyn y mae'n rhaid eu mynychu yn cynnig llwyfan unigryw i gyflenwyr Economi Sylfaenol gysylltu wyneb yn wyneb â phrif brynwyr o bob cwr o Gymru, gan gynnwys:
- Awdurdodau Lleol
- Cydwasanaethau'r GIG
- Trafnidiaeth Cymru
- Llywodraeth Cymru
- Gwasanaethau Masnachu’r Goron
- Cwmnïau adeiladu a seilwaith megis Morgan Sindall, Kier and Bouygues
P’un a ydych chi’n gweithio yn y sector rheoli cyfleusterau, adeiladu, cynnal a chadw, gwasanaethau trydanol, cyflenwi bwyd, glanhau neu ofalu am dir, dyma'ch cyfle i gyflwyno eich hun o flaen y prif benderfynwyr sy'n chwilio am gyflenwyr lleol.
Pam mynychu?
- Bu i ddigwyddiad y llynedd arddangos gwerth dros £36 biliwn o gyfleoedd contract
- Meithrin cysylltiadau gwerthfawr â phrynwyr o’r sector cyhoeddus a phreifat
- Cael cyngor arbenigol gan Busnes Cymru, Sell2Wales a sefydliadau contractio mawr blaenllaw
- Dysgu sut i baratoi ar gyfer tendro a gwella eich siawns o ennill gwaith
- Rhwydweithio gyda chyflenwyr eraill o Gymru a thyfu eich rhwydwaith busnes
Mae busnesau a fynychodd yn 2024 eisoes yn gweld canlyniadau - contractau newydd, contractau go iawn, a phartneriaethau hirdymor. Peidiwch â cholli’ch cyfle i wneud yr un fath.
Mae mynychu'n rhad ac am ddim, ond mae cofrestru’n hanfodol.
Archebwch eich lle nawr: Cofrestru Mynychwyr | Business Wales Expo