
Yn ogystal â dathlu iaith a diwylliant Cymru, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni yn sbarduno arloesedd ac entrepreneuriaeth yng Nghymru.
Bydd Busnes Cymru a Syniadau Mawr Cymru yn cynnal rhaglen wythnos o hyd, i rymuso ac ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes.
Rhwng 2 a 9 Awst, bydd y gwasanaethau hyn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnal cyfres o weithdai, paneli a chystadlaethau deinamig ar stondinau 415 - 416. Bydd thema wahanol i’r gweithgareddau bob dydd - o arloesi digidol i fenter ieuenctid, gyda phwyslais ar rôl y Gymraeg mewn busnes.
Bydd cyfle i Eisteddfodwyr sgwrsio ag entrepreneuriaid profiadol a Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru, yn ogystal â rhannu syniadau a chael cyngor o lygad y ffynnon gan unigolion sydd eisoes wedi lansio eu mentrau eu hunain. Un o’r gwesteion yw Shoned Owen, sydd wedi datblygu ei menter o wasanaeth lliw haul chwistrell i ystod o gynhyrchion sydd wedi ennill gwobrau. Mae’n enghraifft ardderchog o syniad lleol yn arwain at lwyddiant anferthol.
Un digwyddiad sy’n siwr o fod yn ddifyr iawn yw’r sesiwn Paned a Phanel ddydd Sul 3 Awst, a fydd yn edrych ar y ffordd y gall yr iaith Gymraeg helpu eich busnes i dyfu. Ymhlith y siaradwyr gwadd fydd Angharad Gwyn (sylfaenydd Adra), Megan Llŷn (sylfaenydd Amdanat), a Maiwenn Berry, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam.
Os ydych yn awyddus i ddysgu am ddyfodol technoleg ym myd busnes, galwch heibio ddydd Llun 4 Awst, pan fydd y Cynghorwyr Digidol Liam Kurmos a Siôn Huws yn trafod sut mae busnesau’n defnyddio AI, gyda phrofiad VR rhyngweithiol, ymgollol i gyd-fynd. Ddydd Mercher 6 Awst, bydd Awen Ashworth o Sbarduno yn cynnal sesiwn wyddoniaeth ymarferol, llawn hwyl i danio meddyliau entrepreneuraidd.
Un o uchafbwyntiau’r wythnos fydd y Gystadleuaeth Syniad Busnes lle bydd ymwelwyr yn gallu cyflwyno eu syniadau drwy gydol yr ŵyl. Cyhoeddir yr enillydd yn ystod Seremoni Coroni ar y diwrnod y olaf.
Bydd blas bwrlwm creadigol yr Eisteddfod ar y rhaglen ddydd Iau, gyda chyfweliad llawn dychymyg gyda Gareth yr Orangutan, a fydd yn rhoi syniad hwyliog ond gwybodus o sut beth yw dechrau busnes yng Nghymru heddiw.
Gyda’i gilydd, mae Busnes Cymru a Syniadau Mawr Cymru yn dod ag egni, creadigrwydd a chymorth ymarferol i’r Eisteddfod eleni - gan helpu i sicrhau bod dyfodol busnes yng Nghymru mor ddisglair a beiddgar â’r diwylliant sy’n cael ei ddathlu o’i gwmpas.
Mae manylion y rhaglen lawn ar gael yn: eisteddfod.cymru