
Mae Acas wedi gwella eu cyfres o e-ddysgu rhad ac am ddim, sy'n ddelfrydol ar gyfer rheolwyr pobl, arweinwyr tîm, a gweithwyr.
Mae'r pynciau'n ymdrin â meysydd, hawliau a materion cyflogaeth allweddol y mae angen i bob gweithle eu gwneud yn iawn, sy’n ddelfrydol ar gyfer pobl sy'n newydd i reoli ac unrhyw un sydd angen cyflwyniad i:
- Godau Ymarfer Acas
- Bwlio ac aflonyddu
- Contractau cyflogaeth a datganiadau ysgrifenedig
- Disgyblaeth a chwynion
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Rheoli gwrthdaro
- Rheoli pobl
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i dderbyn mwy o wybodaeth: Home | Acas e-learning
Mae Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) yn system gymorth ar-lein a ddarperir gan Busnes Cymru.
Mae cofrestru ar gyfer cyfrif BOSS yn rhoi mynediad unigryw i chi i gyrsiau digidol sydd wedi'u hariannu'n llawn, o gynllunio ariannol, lleihau carbon i wella cynhyrchiant.
Mae'r cyrsiau, a grëwyd gan arbenigwyr, i chi eu cwblhau ar gyflymder sy’n gweddu i chi, er mwyn eich cefnogi i ddechrau a rhedeg busnes yn llwyddiannus. Cofrestrwch heddiw: Hafan | BOSS