Newyddion

Dweud eich dweud ar ddyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed eich barn chi ar ddyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Bydd y cynllun, Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru – Fframwaith Gweithredu, yn cael ei ddatblygu i edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru, diwydiant, academia a’r Undebau Llafur gydweithio i sicrhau dyfodol y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Yr ymgynghoriad yw’r cam nesaf i ddatblygu’r cynllun a fydd ar agor tan 19 Hydref 2020 er mwyn i bobl rannu eu barn.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.Wales.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.