Newyddion

Diwrnod Masnach Deg y Byd 2025

Map of the world on a jute background

Bob ail ddydd Sadwrn ym mis Mai, mae Sefydliad Masnach Deg y Byd yn dathlu Diwrnod Masnach Deg y Byd i dynnu sylw at bŵer trawsnewidiol y model busnes Masnach Deg a'i effaith gadarnhaol ar fywydau a chymunedau pobl.

Ar gyfer 2025, thema'r ymgyrch yw: Byddwch yn llais y #ChwyldroBusnes ac fe’i cynhelir ar 10 Mai.

Mae Diwrnod Masnach Deg y Byd yn llwyfan byd-eang i godi ymwybyddiaeth o egwyddorion ac arferion Masnach Deg, gan hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: World Fair Trade Day (May) - World Fair Trade Organization

Dysgwch am Fasnach Deg yng Nghymru.

Mae bod yn fusnes cyfrifol yn golygu bod o fudd i’r bobl a’r lleoedd o’ch cwmpas yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. Mae’n ymwneud â’r ffordd yr ydych yn edrych ar ôl eich staff yn eich gweithle, eich perthynas gyda’ch cyflenwyr yn y farchnad, eich rhan ym mywyd y gymuned a’ch effaith ar yr amgylchedd. Ewch i dudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth: Busnes Cyfrifol | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.