
Bydd jin, wystrys a mêl o Gymru yn ymuno â'r rhestr o gynhyrchion bwyd a diod y rhoddir statws dynodiad daearyddol gwarchodedig (PGI) iddynt o dan gynlluniau Dynodiad Daearyddol y DU.
Mae Jin Botanegol Brodorol Dyfi, Wystrys Brodorol Sir Benfro, Wystrys Craig Sir Benfro a Mêl Grug Cymru/Welsh Heather Honey wedi’u cydnabod yn ffurfiol am eu nodweddion unigryw a'u treftadaeth ranbarthol, gan sicrhau mai dim ond eitemau dilys sy'n bodloni safonau cynhyrchu a gofynion daearyddol llym y gellir eu marchnata o dan yr enwau gwarchodedig hyn.
Jin Botanegol Brodorol Dyfi a Mêl Grug Cymru/Welsh Heather Honey yw'r jin a’r mêl cyntaf a wneir yn y DU i gael statws gwarchodedig.
Dywedodd Gruffydd Rees o Gwenyn Gruffydd Ltd yn Sir Gaerfyrddin:
Rwy'n falch iawn bod union darddiad a nodweddion Mêl Grug Cymru wedi'u cydnabod. Mae proses ymgeisio Dynodiad Daearyddol (GI) y DU yn un faith, ac mae'n wych mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU lle mae mêl wedi cael statws PGI.
Dywedodd Jake Davies, Atlantic Edge Oysters:
Bydd cael Statws PGI yn denu cynulleidfa a marchnad ehangach sy'n fwy ymwybodol o gynhyrchion GI a bydd yn ein galluogi i ymuno â'r teulu GI sydd â llawer o gynhyrchion gwych.
Ers 2009 mae cynllun GI Llywodraeth Cymru wedi galluogi amrywiaeth o gynhyrchion bwyd a diod unigryw o Gymru i ymuno â'r teulu GI. Ar ôl iddynt ymuno, mae'r cynhyrchion hyn yn elwa o statws gwarchodedig a gweithgarwch hyrwyddo parhaus ar-lein ac mewn digwyddiadau.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor arbenigol ar sut i fod yn gymwys a gwneud cais am le ar y rhestr fawreddog hon o fwyd a diod gwreiddiol o Gymru. I gael gwybodaeth am wneud cais am GI y DU neu statws gwarchodedig, cysylltwch â UKGI.Wales@gov.wales.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Cynlluniau Dynodiad Daearyddol Newydd y DU (GI y DU) | Busnes Cymru - Bwyd a diod a Welsh food and drink delicacies earn protected status - GOV.UK