
Bydd cyfraddau llog CThEF ar gyfer taliadau hwyr yn cynyddu 1.5% ar gyfer yr holl drethi o 6 Ebrill 2025 yn dilyn newid mewn deddfwriaeth.
Cyhoeddwyd y cynnydd hwn yng Nghyllideb yr Hydref yn 2024 a daw’r newid i rym o 6 Ebrill 2025.
Mae cyfraddau llog CThEF wedi'u gosod mewn deddfwriaeth ac maent yn gysylltiedig â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Ceir dwy gyfradd:
- llog ar daliadau hwyr, sydd wedi'i osod ar y gyfradd sylfaenol + 4% o 6 Ebrill 2025 (+ 2.5% ydoedd ar neu cyn 5 Ebrill 2025)
- llog ad-dalu, sydd wedi’i osod ar y gyfradd sylfaenol - 1%, gyda therfyn isaf o 0.5% (a elwir yn ‘llawr isaf’)
Y cyfraddau llog cyfredol am daliadau hwyr ac ad-dalu sy'n berthnasol i'r prif drethi a thollau y mae CThEF yn eu codi ac yn talu llog arnynt ar hyn o bryd yw:
- cyfradd llog taliadau hwyr – 8.5% o 6 Ebrill 2025
- cyfradd llog ad-dalu – 3.50% o 25 Chwefror 2025
Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol: