Bydd beicwyr a chymunedau ledled Cymru yn elwa ar fuddsoddiad newydd gwerth £4.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn seilwaith twristiaeth feicio. Mae hyn yn rhan o waith ehangach sydd â'r nod o adael gwaddol iechyd, chwaraeon ac economaidd parhaol yn sgil dyfodiad Grand Départ y Tour de France i Gymru yn 2027.
Bydd modd gwylio'r Tour de France yn rhad ac am ddim, ac mae disgwyl iddo ddenu mwy na miliwn o ymwelwyr i'r cymalau yng Nghymru a chyrraedd cynulleidfa fyd-eang o 150 miliwn o wylwyr teledu, ar draws 190 o wledydd. Mae'r gronfa hon yn sicrhau bod y manteision yn para ar ôl i'r camerâu adael.
Bydd y cyllid yn creu rhwydwaith cenedlaethol o arwyddion a chanolfannau beicio mawr a bach y bydd pobl am ymweld â nhw. Gallai'r cyfleusterau gynnwys mannau parcio diogel i feiciau, cyfleusterau storio, gorsafoedd gwefru e-feiciau, stondinau cynnal a chadw, dŵr, gwasanaethau llogi beiciau a gwybodaeth am feicio.
Mae Cymru eisoes yn cynnig cyfleoedd o'r radd flaenaf i feicio ar hyd llwybrau ar y ffordd, llwybrau graean, hamdden a beicio mynydd. Bydd y buddsoddiad yn adeiladu ar y sylfaen hon i drawsnewid Cymru yn gyrchfan twristiaeth feicio sydd gyda'r gorau yn y byd.
Bydd £2 miliwn ar gael yn 2026-27, gan godi i £2.5 miliwn yn 2027-28, ac fe gaiff ei ddarparu drwy gronfa gyfalaf y Pethau Pwysig. Bydd angen i bob prosiect a gymeradwyir nid yn unig ychwanegu gwerth at brofiadau ymwelwyr, ond hefyd ddarparu manteision i'r cymunedau sy'n croesawu twristiaid.
Awdurdodau lleol ac awdurdodau parc cenedlaethol fydd yn arwain y gwaith cyflenwi. Bydd modd gwneud cais o 10 Awst 2026, a'r dyddiad cau yw 25 Medi 2026 am 1pm.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cymru i groesawu beicwyr gyda chronfa Tour de France gwerth £4.5 miliwn | LLYW.CYMRU.