Newyddion

Cyllid grant i osod gwefrwyr Cerbydau Trydan (EV)

Electric Vehicle charging

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd o dros 40% yn y symiau grant sydd ar gael i fusnesau a chartrefi, wrth osod mannau gwefru cerbydau trydan (EV).

Bydd y diweddariadau canlynol yn cael eu cyflwyno o 1 Ebrill 2026 ymlaen:

  • bydd pobl sy'n byw mewn cartrefi wedi’u rhentu, perchnogion fflatiau, landlordiaid preswyl, cartrefi â pharcio ar y stryd, a busnesau, i gyd yn gallu derbyn grantiau uwch o hyd at £500 y man gwefru, sy'n codi o'r gostyngiad blaenorol o £350

Bydd y cynnydd yn talu am bron i hanner cost gosod man gwefru nodweddiadol tan fis Mawrth 2027.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Grant boost to cover almost half the cost of installing EV chargers for households and businesses - GOV.UK.

Beth am gofrestru ar gyfer 'Yr Addewid Twf Gwyrdd' a helpu eich busnes i gymryd camau rhagweithiol tuag at eich gwneud yn fwy cynaliadwy.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.