
Mewn cam sylweddol ymlaen i ddiwydiant, mae PackUK wedi rhyddhau sawl cyhoeddiad sy’n ganolog i gyflawni cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio (pEPR) y DU:
- Ffioedd sylfaenol 2025 ar gyfer y cynllun pEPR i roi sicrwydd i gynhyrchwyr
- Y Datganiad Polisi Modiwleiddio Ffioedd cyntaf ar hybu dewisiadau pacio cynaliadwy
- Datganiad Sefyllfa Rheoleiddiol (Penderfyniad Rheoleiddiol yng Nghymru) sy’n mynd i’r afael â phryderon cynhyrchwyr ynghylch y rhwymedigaethau asesu ailgylchadwyedd
- Strategaeth dros dro PackUK
Mae canllawiau pellach ar wefan gov.uk i gynhyrchwyr sy’n egluro sut y bydd y ffioedd hyn yn effeithio ar eu busnesau.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Cyhoeddiadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio - GOV.UK ac Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pecynnu | LLYW.CYMRU.