Ydych chi’n barod i fuddsoddi mewn dyfodol cynaliadwy?
P'un ai ydych chi'n uwchraddio offer, yn gwella effeithlonrwydd ynni neu’n buddsoddi mewn seilwaith adnewyddadwy, dyma'ch cyfle i gymryd cam hyderus tuag at fusnes mwy cynaliadwy.
Diolch i Powering Local Businesses, bydd pum busnes yn derbyn grant o £5,000 yr un i'w helpu nhw i wneud uwchraddiadau ystyrlon i'w cynaliadwyedd i arbed arian a charbon.
Gallent gynnwys:
- gwelliannau effeithlonrwydd ynni, neu uwchraddio i gyfarpar mwy effeithlon
- gosodiadau ynni adnewyddadwy (paneli solar, storio batris er enghraifft)
- gwefrwr cerbydau trydan a meddalwedd rheoli
Mae'r grant ar agor i fusnesau bach cofrestredig yn y DU sydd â safle ffisegol, llai na 50 o weithwyr ac o leiaf 12 mis o hanes masnachu.
Hefyd, bydd pum perchennog busnes yn ennill gwefrwr cerbyd trydan yn y gweithle (gan gynnwys gosodiad safonol) gan Pod.
Gallwch wneud cais am y grant, y gwefrwr cerbyd trydan neu'r ddau.
Mae ceisiadau'n cau am hanner nos ar 31 Awst 2026.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, dewiswch y ddolen ganlynol: £5,000 sustainability grants for UK small businesses | Enterprise Nation.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd. Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, mae gofyn i’ch busnes ymrwymo i o leiaf un weithred gadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd drwy sicrhau perfformiad chynaliadwy.