
Mae chwe chwmni datblygu gemau o Gymru ar fin cael hwb ariannol o £850,000 gan Lywodraeth Cymru, i'w helpu i fynd i lefel nesaf eu prosiectau.
Cronfa Uwchraddio Gemau Cymru yw'r cynllun cyntaf o'i fath. Cafodd ei lansio'n gynharach eleni gan Gymru Greadigol mewn partneriaeth â Chronfa Gemau'r DU, a sydd wedi bod yn rheoli'r ceisiadau.
Ei nod yw helpu datblygwyr o Gymru i fynd â'u prosiectau gemau o'r cam treialu i gam pellach, mwy hunangynhaliol, trwy roi'r modd iddynt dyfu o ran cwmpas, cynulleidfa ac effaith.
Mae cyfanswm o £850,000 o gymorth ariannol wedi'i ddyfarnu i chwe chwmni:
- Wales Interactive
- Rocket Science
- Goldborough Studio
- Sugar Creative
- COPA Gaming
- Cloth Cat
Mae'r cyhoeddiad yn dilyn taith fasnach lwyddiannus i'r Game Developers Conference (GDC) yn San Francisco ym mis Mawrth, lle ymunodd pump o'r chwe chwmni â stondin Cymru i arddangos eu prosiectau, cwrdd ag arweinwyr yn y diwydiant a meithrin cysylltiadau newydd.
Ar hyn o bryd mae gan Gymru Greadigol gronfa arall sydd ar agor ar gyfer ceisiadau. Mae'r Gronfa Datblygu Gemau, sy'n cau'r wythnos hon [dydd Iau 5 Mehefin am 12pm],yn cynnig rhwng £10,000 a £50,000 i fusnesau yng Nghymru sy'n datblygu prosiectau fideo a gemau ar gyfer eu rhyddhau'n fasnachol.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i Gwnewch gais i'r Gronfa Datblygu Gemau | Cymru Greadigol