
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ehangu Cronfa Balchder Llawr Gwlad i ardaloedd mwy gwledig a threfi llai. Rydym am helpu i greu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a bod yn driw i’w hunain ledled Cymru.
Bydd y gronfa yn helpu digwyddiadau Balchder llai ledled Cymru i ymgysylltu â phobl LHDTC+ a chymunedau ehangach a’u cefnogi.
Mae Cronfa Balchder Llawr Gwlad Llywodraeth Cymru yn cael ei gweinyddu gan Pride Cymru, felly gwnewch gais trwy eugwefan. (Rhaid cyflwyno cais erbyn 11 Awst 2025).