Grant o hyd at £25,000 i wneud gwelliannau arbed ynni, ar gyfer grwpiau cymunedol neu glybiau chwaraeon nid-er-elw yng Nghymru.
I wneud cais, rhaid i'ch prosiect fodloni'r canlynol:
- cael ei gynnal yng Nghymru a bod ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru yn bennaf
- ar gyfer adeilad yr ydych chi’n berchen arno neu y mae gennych chi brydles arno am o leiaf 7 mlynedd arall
- heb fod wedi cychwyn eto
- cychwyn erbyn 31 Mawrth 2027
- gorffen cyn pen 12 mis o gael y grant
Prosiectau a chyllid:
- ffenestri a drysau newydd, gan gynnwys anghenion gwresogi
- systemau gwresogi sy’n fwy ecogyfeillgar ac sy’n fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni
- inswleiddio gwell (heb gynnwys gwaith strwythurol ar doeau)
- paneli solar a batris storio
- goleuadau LED a synwyryddion symud
- systemau cynaeafu dŵr cynaliadwy
Mynegi diddordeb yn cau ar 5pm, 29 Mehefin 2026.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Grant Arbed Ynni | Sport Wales.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. Cymryd rhan: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru.