Newyddion

Canllawiau newydd i helpu i wirio manylion eiddo

Tenby houses

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi cyhoeddi canllawiau newydd i'ch helpu i roi’r wybodaeth gywir am eich eiddo, wrth wirio'r manylion am:

Os byddwch chi'n rhoi gwybodaeth ffug, mae’n bosib y bydd yn rhaid ichi dalu tâl cosb. Mae hyn yn cynnwys os yw'r wybodaeth yn cael ei rhoi gan asiant rydych chi wedi'i benodi i weithredu ar eich rhan.  

Mae'r VOA wedi diweddaru eu canllawiau ar pryd y gallent gyhoeddi cosb, gan gynnwys yr hyn sy’n wybodaeth ffug.    

Os yw asiant yn rheoli eich ardrethi busnes, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth y maen nhw'n ei rhoi i'r VOA yn gywir. 

Defnyddiwch y rhestr wirio ar sut i ddewis asiant ardrethi busnes. Mae yna hefyd safonau ar gyfer asiantiaid sy'n esbonio beth ddylech chi ei ddisgwyl gan asiant. 

Gallwch reoli eich ardrethi busnes eich hun trwy greu cyfrif prisio ardrethi busnes ar GOV.UK.

Ardrethi Busnes yng Nghymru

Mae Ardrethi Annomestig hefyd yn cael eu galw'n ardrethi busnes, a threthi ydynt i helpu i dalu am wasanaethau lleol. Fe’u telir ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig. Os ydych yn talu ardrethi busnes, fe all eich eiddo fod yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes: Ardrethi Busnes yng Nghymru | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.