Newyddion

Cadw’n Ddiogel ac yn Iach: Seiber ar gyfer Busnesau Bach

Cyber security - digital padlock

O negeseuon e-bost gwe-rwydo a chyfrifon wedi'u hacio i dorri rheoliadau data a sgamiau, mae bygythiadau seiber yn dod yn fwy cyffredin i fusnesau bach bob dydd. Ac i lawer o berchnogion busnes, gall gwybod ble i ddechrau deimlo’n llethol.

Mae Small Business Britain a BT yn dod at ei gilydd i gyflwyno Staying Safe & Sound: Cyber for Small Business, cyfres gweminar byw pedair wythnos rhad ac am ddim sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu i amddiffyn eich busnes gyda chyngor ymarferol, syml.

Dyddiadau'r cyrsiau Mehefin 2026:

  • Modiwl 1: Dydd Iau 4 Mehefin, 10am - 11am
  • Modiwl 2: Dydd Iau 11 Mehefin, 10am - 11am
  • Modiwl 3: Dydd Iau 18 Mehefin, 10am - 11am
  • Modiwl 4: Dydd Iau 25 Mehefin, 10am - 11am

P'un ai ydych chi'n fusnes un person neu'n datblygu tîm, bydd y gyfres hon yn eich helpu i gymryd camau clir, ymarferol tuag at wneud eich busnes yn fwy diogel.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth ac i gofrestru: Staying Safe & Sound: Cyber for Small Business - Programme Registration.

I gael gwybodaeth a chyngor ar Seiberddiogelwch ar gyfer eich busnes, edrychwch ar y canllaw Cyngor a Chymorth Seiberddiogelwch | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.