
Bydd miliynau o bobl a pherchnogion busnesau bach yn cael eu diogelu'n well rhag cau eu cyfrif banc.
- Bydd rheolau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i fanciau roi 90 diwrnod o rybudd i gwsmeriaid cyn cau cyfrifon a rhoi esboniad clir.
- Bydd newidiadau’n atal banciau rhag cau cyfrifon heb reswm clir ac yn rhoi'r amser a'r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl a busnesau i herio penderfyniadau.
Bydd yn ofynnol i fanciau a darparwyr gwasanaethau talu eraill roi o leiaf 90 diwrnod o rybudd i gwsmeriaid cyn cau eu cyfrif neu derfynu gwasanaeth talu - cynnydd o'r ddau fis sy'n ofynnol ar hyn o bryd - o dan reolau newydd y disgwylir iddynt ddod i rym ar gyfer contractau newydd perthnasol o fis Ebrill 2026.
Bydd angen i fanciau hefyd roi esboniad clir i gwsmeriaid yn ysgrifenedig, fel y gall pobl herio penderfyniadau, fel drwy Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Bydd y rheolau newydd yn rhoi mwy o amser i gwsmeriaid herio penderfyniadau nad ydynt yn cytuno â nhw a dod o hyd i fanc newydd os caiff eu cyfrif ei gau.
Bydd hyn yn cefnogi busnesau bach sydd wedi cwyno am eu cyfrif yn cael ei gau heb reswm ar fyr rybudd - gan adael dim amser iddynt gwyno neu ddod o hyd i fanc newydd.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Millions of people and businesses protected against debanking - GOV.UK