Newyddion

Busnesau sy’n deall dementia

Dysgwch sut gall eich busnes ddeall dementia yn well a chael canllaw rhad ac am ddim. 

O fanwerthu i dai, cyfleustodau i adloniant, cyllid i drafnidiaeth, mae gan bob sector ran i’w chwarae.

Gall pob busnes gyfrannu at fynd i’r afael ag effaith gymdeithasol ac economaidd dementia. 

Gall busnesau a sefydliadau wneud gwahaniaeth mawr i bobl â dementia a’u gofalwyr trwy ymrwymo i ddeall dementia yn well. Mae dod yn fusnes sy’n deall dementia nid yn unig yn gam cyfrifol yn gymdeithasol ond fe all hefyd arwain at fuddion economaidd.

I gael rhagor o wybodaeth a lawrlwytho’r canllaw, dilynwch y ddolen ganlynol Dementia-friendly businesses | Alzheimer's Society (alzheimers.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.