Disgwylir i dros ddeng mil o swyddi gael eu creu yng Nghymru ar ôl i'r Prif Weinidog gyhoeddi buddsoddiad newydd gwerth £1.4 biliwn heddiw cyn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru.
Mae'r ffigur hwn yn dod â chyfanswm y buddsoddiadau newydd i Gymru ers cyhoeddi'r Uwchgynhadledd i £16 biliwn, ac mae'n cynnwys enwau rhyngwladol mawr gan gynnwys:
- Vodafone – Buddsoddiad gwerth £600 miliwn i sicrhau cyrhaeddiad 5GSA o 99%, gyda dwy filiwn o bobl ychwanegol ar eu hennill.
- GE Aerospace Cymru – £19 miliwn i foderneiddio safle Nantgarw sy'n cyflogi mwy na 1,350 o beirianwyr ac arbenigwyr technegol medrus iawn, ac yn gwasanaethu cwsmeriaid yn fyd-eang.
- Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain (ABP) – buddsoddiad cyfalaf gwerth £42 miliwn mewn pum porthladd yng Nghymru, gan gynnwys cyflwyno angorfa dŵr dwfn newydd yng Nghei Canol, Casnewydd.
- RWE – £200m i adeiladu ei gyfleuster storio ynni batri mwyaf erioed ym Mhenfro, gan gyfrannu at sefydlogi marchnad ynni'r DU drwy storio ynni dros ben a'i fwydo i'r Grid Cenedlaethol.
- Eni – Buddsoddiad gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn seilwaith dal a storio carbon yn y Parlwr Du, Sir y Fflint gan greu mwy na 1,000 o swyddi yng Nghymru.
- Bad Wolf – £2 miliwn ar gyfer cynhyrchu dau gynhyrchiad teledu safon uchel newydd a fydd yn buddsoddi £30m yn economi Cymru.
Mae Vantage Data Centers yn buddsoddi £10 biliwn yn hen Ffatri Injan Ford Pen-y-bont ar Ogwr, gan drawsnewid y ffatri'n ganolfan ddata a champws o'r radd flaenaf i fodloni gofynion y chwyldro Deallusrwydd Artiffisial. Disgwylir i'r buddsoddiad hwn greu dros 5000 o swyddi mewn adeiladu a gweithrediadau canolfannau data.
Mae dros 300 o arweinwyr busnes a buddsoddwyr o 27 o wledydd ledled y byd yn cwrdd yng Nghasnewydd heddiw i archwilio cyfleoedd cyffrous ar gyfer buddsoddi yng Nghymru.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Buddsoddiadau gwerth dros £16 biliwn a miloedd o swyddi yn dod i Gymru | LLYW.CYMRU.
Llun: Trwydded Crown Copyright