
Mae Blaenoriaethau Newydd ar gyfer Diwylliant wedi lansio gyda ffocws ar gyfleoedd i bawb, waeth beth fo'u hoedran neu gefndir.
Mae'r blaenoriaethau newydd hyn yn cael eu cefnogi gan becyn buddsoddi gwerth £15 miliwn i gefnogi eu gweithredu ledled Cymru.
Wrth wneud y cyhoeddiad, cadarnhaodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, y bydd y cyllid, o'r gyllideb derfynol ddiweddar, yn cael ei rannu'n ddwy brif ffrwd:
- £8 miliwn ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol sector y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru
- £7 miliwn o gyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, y celfyddydau a'r amgylchedd hanesyddol
Bydd y cyllid gwell yn cefnogi sawl blaenoriaeth allweddol, megis gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc; mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a darparu adnoddau i helpu'r sector i gyflawni sero net; datblygu sgiliau; gwella mynediad a gwella digidol.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Blaenoriaethau Newydd ar gyfer Diwylliant i ganolbwyntio ar gyfleoedd i bawb | LLYW.CYMRU and Blaenoriaethau ar gyfer diwylliant | LLYW.CYMRU