
Mae Miller Research yn cynnal astudiaeth ar ran Llywodraeth Cymru i ddeall y sector gwasanaethau yng Nghymru yn well.
Bwriad yr arolwg yw casglu dealltwriaeth o’r byd go iawn gan fusnesau ar draws y sector, yn enwedig y rhai sy'n cynnig gwasanaethau y gellir eu masnachu y tu hwnt i Gymru. Bydd y canfyddiadau yn llywio sut y gall Llywodraeth Cymru ddatblygu ei pholisïau a'i phecynnau cymorth i ddatgloi twf yn y dyfodol, cryfhau effaith economaidd y sector, a mynd i'r afael â heriau sy'n dod i'r amlwg. Bydd eich barn yn darparu tystiolaeth werthfawr i lunio’r ffordd ymlaen.
Mae croeso i chi rannu'r arolwg gyda phobl yn eich rhwydwaith rydych chi’n meddwl sydd mewn sefyllfa dda i ymateb. Bydd yr arolwg yn cau ar 22 Ebrill 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Rebecca.askew001@gov.cymru
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gwblhau’r arolwg: Ymchwil i'r Sector Gwasanaethau: Arolwg