
Mae pum mlynedd o arloesi ymarferol yng Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru wedi helpu i wella gweithgynhyrchu yng Nghymru, gyda busnesau'n dysgu gweithio mewn ffordd glyfrach, lleihau gwastraff a chreu cynhyrchion gwell.
Ers agor ei drysau am y tro cyntaf, mae'r ganolfan ymchwil gwerth £20 miliwn ym Mrychdyn, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi helpu mwy na 100 o fusnesau yng Nghymru i wneud cynhyrchion mewn ffordd well, yn gyflymach ac yn wyrddach, wrth gynnal dros 20 o raglenni sy'n dangos i gwmnïau gweithgynhyrchu sut i wella cynhyrchiant a lleihau'r ynni maen nhw'n ei ddefnyddio. Yn fuan ar ôl agor, bu AMRC Cymru, sy'n rhan o Brifysgol Sheffield, yn amhrisiadwy drwy newid yn gyflym i gynhyrchu peiriannau anadlu meddygol a oedd yn achub bywydau yn ystod pandemig Covid-19, gan weithio ar y cyd ag Airbus.
Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gweithiodd y ganolfan ar y prosiect Ffatri 4.0, gan ddod ag Airbus a gweithgynhyrchwyr bwyd a diod at ei gilydd i helpu ffatrïoedd i weithio mewn ffordd glyfrach, i gynyddu cynhyrchiant ac i leihau eu heffaith amgylcheddol drwy dechnolegau newydd. Mae'r Pudding Compartment yn y Fflint wedi gweld manteision y dull hwn, gan ddefnyddio synwyryddion i fonitro tymheredd a faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio, a phrofi sut i osod a threfnu’r ffatri yn ddigidol, ac fe welson nhw fod gweithio mewn ffordd glyfrach fel hyn yn arwain at allbwn uwch ac at ddenu cwsmeriaid newydd.
Fis diwethaf, ehangodd yr AMRC, sy'n rhan o'r Catapwlt Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel (HVM Catapult), diolch yn rhannol i fuddsoddiad o £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mewn canolfan ffatri ddigidol newydd yn HVM Catapult Baglan yn Ne Cymru, gan helpu hyd yn oed rhagor o fusnesau yng Nghymru i weithio'n effeithlon wrth leihau eu heffaith amgylcheddol.
Am ragor o wybodaeth dewisiwch y ddolen ganlynol: AMRC Cymru: pum mlynedd o wneud busnesau Cymru yn gyflymach ac yn wyrddach | LLYW.CYMRU
Gall arloesi helpu eich busnes i ddod yn fwy cystadleuol, gall roi hwb i’w werthiant a’i helpu i sicrhau marchnadoedd newydd.
Mae ein parth busnes ac arloesi wedi'i gynllunio fel y gallwch chi ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi. Gallwn eich helpu i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu (R&D), cyflwyno technegau a thechnolegau newydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu, diogelu eich asedau drwy hawliau eiddo deallusol (IP), a chael mynediad at gyfleusterau ac arbenigedd mewn prifysgolion a cholegau.