Hanes llwyddiant

Finalrentals Limited

Finalrentals Limited

Mae Busnes Cymru wedi bod yn fentor gwych i’n busnes, mae cyflymder yr ymateb yn anhygoel ac mae hynny’n bwysig iawn i unrhyw fusnes neu entrepreneur.

Sefydlodd y Sylfaenydd a’r Prif Weithredwr  Ammar Akhtar ei fusnes Finalrentals Limited yn Dubai yn 2019 ac ar hyn o bryd mae ar gael mewn 22 o wledydd.

Datblygodd y platfform digidol llogi ceir i alluogi defnyddwyr i ddod o hyd i’r cwmnïau llogi ceir lleol mwyaf cost effeithiol.

Ers hynny, mae Ammar wedi symud i Gymru ac wedi cael cymorth gan Busnes Cymru i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth bellach ynghylch y cyfleoedd twf sydd ar gael i Finalrentals yng Nghymru ac yn fyd-eang.

Trafododd ei gynghorydd gweithgareddau marchnata a hysbysebu’r busnes a rhoddodd gyngor ynghylch masnach dramor. Cyflwynwyd Ammar hefyd i Fanc Datblygu Cymru a arweiniodd at Finalrentals yn cael cyllid.

Bwriad Finalrentals yw cyrraedd 100 o wledydd yn y 16 mis nesaf!

A yw eich busnes chi angen cyngor ynghylch twf?  Cysylltwch heddiw. Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.