Dechreuodd GG's Gelato yn fenter deuluol ym Mhenclawdd, Gŵyr, yn 2019, gan agor ei drysau ychydig cyn i'r pandemig newid popeth. Yn hytrach na dod i stop, addasodd ac ehangodd y busnes, gan dyfu ei weithrediad masnach trwy’r cyfnod clo a thu hwnt. Heddiw, mae GG's Gelato yn frand gelato Cymreig beiddgar, creadigol gyda dros 180 o gwsmeriaid masnach ledled de Cymru a phrif barlwr ym Mhenclawdd ym Mhenrhyn Gŵyr. Bellach mae ail barlwr traeth 'twll yn y wal' ym Mae Caswell wedi agor mewn pryd ar gyfer yr haf. Yma, mae'r Rheolwr Gweithrediadau, Toby Link-Jones, yn rhannu sut mae'r busnes wedi tyfu o un sgŵp i weithrediad sylweddol a sut mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru wedi helpu i lunio'r daith honno.
Fe ymunoch chi â’r busnes pan oeddech chi’n ifanc iawn, ac rydych chi wedi gweithio ym mhob rhan ohono. Sut mae hynny wedi dylanwadu ar eich dull chi o weithio?
Roeddwn i'n rhan o'r busnes o'r diwrnod cyntaf, gan ddechrau fel negesydd a gweithio trwy olchi potiau, gweini, cynhyrchu a chludo cyn camu i mewn i'm rôl bresennol. Mae'r daith ymarferol honno wedi rhoi dealltwriaeth go iawn i mi o bob lefel o'r gweithrediad. Pan darodd y pandemig, oedodd llawer o fusnesau, ond dyma ni’n gwthio ymlaen ac yn ehangu. Mae’r meddylfryd hwnnw o addasu yn hytrach nag oedi wedi aros gyda ni byth ers hynny.
Beth sy’n gwneud i GG’s Gelato sefyll allan yn y farchnad?
Yr hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol yw’r cyfuniad o frandio cryf, cynnyrch o’r radd flaenaf a gwreiddiau Cymreig go iawn. Rydyn ni’n cynhyrchu yng Nghymru ac yn cyflenwi caffis annibynnol, tafarndai a manwerthwyr aml-safle. Rydyn ni hefyd yn buddsoddi’n gyson mewn gwell cyfarpar a gwell syniadau. O'n hunaniaeth weledol feiddgar i gylchdroi lansiadau blas a chysyniadau tymhorol, mae popeth wedi'i gynllunio i greu cyffro.
Beth oedd yr heriau mwyaf i ddechrau, a sut aethoch chi ati i’w trin?
Mae Gelato yn llawer mwy technegol nag y mae pobl yn ei sylweddoli. Mae gwyddoniaeth go iawn ynghylch cydbwyso mathau o siwgr a braster, yn ogystal â deall sefydlogyddion, gor-redeg a rheoli tymheredd. Yn gynnar iawn, dyma ni’n wynebu problemau ynghylch cysondeb a’r gallu i dyfu. Trwy gyrsiau diwydiant, cymorth cyflenwyr ac arbrofi ymarferol, dyma ni’n datblygu dealltwriaeth dechnegol ddyfnach o lawer, sydd wedi bod yn hanfodol i wella ansawdd a thyfu cynhyrchu yn hyderus.
Sut mae RCT wedi cynorthwyo’ch twf chi?
Rhoddodd RCT gymorth ar draws nifer o feysydd y busnes. Yn gynnar, roedd y canllawiau AD yn arbennig o werthfawr: helpodd fi i ddeall contractau a chyfrifoldebau staff a sut i reoli tîm sy'n tyfu'n effeithiol wrth i mi gamu i rôl fwy gweithredol. Yn ddiweddarach, mae RCT wedi bod o gymorth i ni gyda cheisiadau grant, gan ein helpu ni i archwilio cyfleoedd cyllido i fuddsoddi mewn offer cynhyrchu newydd. Mae cael mynediad at yr arbenigedd hwnnw yn golygu y gallwn ni gynllunio ein twf yn fwy hyderus a gwneud gwelliannau a fydd yn cefnogi cam nesaf y busnes.
Pa gerrig milltir rydych chi fwyaf balch ohonyn nhw?
Roedd sicrhau achrediad SALSA (Cymeradwyaeth Cyflenwr Diogel a Lleol) llynedd yn dipyn o drobwynt. Dangosodd ein bod ni o ddifri am ansawdd a chydymffurfio gan roi’r sail i ni roi cynnig ar gyfleoedd manwerthu mwy o faint yn hyderus. Yn fasnachol, rydyn ni wedi sicrhau twf o 10% mewn trosiant o flwyddyn i flwyddyn, ac mae ein rhestr stoc wedi cynyddu o ryw 150 i tua 200. Dyma ni’n cystadlu hefyd yng Ngwobrau’r Golden Scoop am y tro cyntaf, gan dderbyn dyfarniad pum seren am ein gelato mascarpone, pistachio a phomgranad. Cafodd pob un o’r chwe blas arall a gyflwynwyd gennym ni, hefyd eu cydnabod. I fusnes ifanc, mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol honno yn golygu llawer.
Pa ran y mae cynaliadwyedd yn ei chwarae yn y busnes?
A ninnau’n fusnes sydd wedi’i wreiddio yn amgylchedd trawiadol Gŵyr, mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein hunaniaeth. Trwy RCT, rydyn ni wedi datblygu cynllun lleihau carbon ac wedi cwblhau archwiliad carbon mewnol i asesu ein hallyriadau presennol a nodi meysydd i'w gwella. Rhoddodd y broses honno ddarlun cliriach i ni o'n heffaith amgylcheddol ac mae wedi ein helpu ni i roi camau ymarferol ar waith wrth i ni dyfu.
Beth sydd nesaf i GG’s Gelato?
Ein ffocws nesaf nawr yw agor ail barlwr ym Mae Caswell cyn yr haf. Bydd buddsoddi mewn peiriannu cynhyrchu newydd yn cynyddu ein capasiti, yn gwella ein cysondeb ac yn rhoi’r hyblygrwydd i ni ddatblygu blasau a ffurfiau cynnyrch newydd. Rydyn ni’n parhau i dyfu'r tîm ac ehangu ein rhwydwaith cyfanwerthu, a chyda chanllawiau parhaus RCT, rydyn ni’n hyderus y bydd y cam nesaf yr un mor gyffrous â'r olaf.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill yng Nghymru?
Rhowch gynnig arni. Bydd heriau o hyd, ond y profiadau hynny, yn aml, yw pryd y byddwch chi’n dysgu fwyaf. Amgylchynwch eich hun â phobl dda, daliwch yn agored i ddysgu a byddwch yn barod i weithio’n galed. Y cyngor mwyaf rwy wedi’i gael yw gwneud penderfyniad. Mae’n well cymryd cam ystyriol nag eistedd yn llonydd yn rhy hir. Pan na fydd pethau’n gweithio, byddwch yn onest, dysgwch oddi wrthyn nhw a symud ymlaen. Mae Cymru yn lle gwych i adeiladu busnes, ac mae’r cymorth sydd ar gael trwy raglenni megis RCT yn amhrisiadwy.
Dysgwch ragor am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf gynorthwyo eich busnes chi.
Dysgwch ragor am GG’s Gelato.