
Bydd cronfa newydd gwerth £1 miliwn yn helpu i sicrhau bod atyniadau twristiaeth ledled Cymru yn gallu croesawu ymwelwyr beth bynnag fo'r tywydd.
Mae 'Cronfa Gwrthsefyll Tywydd Blwyddyn Croeso' yn cael ei lansio wrth i Croeso Cymru ddathlu'r croeso unigryw y gellir ei gael yng Nghymru sy'n golygu bod llawer yn dewis dychwelyd dro ar ôl tro.
Bydd y gronfa yn darparu grantiau rhwng £5,000 a £20,000 i fusnesau cymwys, gan eu galluogi i weithredu mesurau gwrthsefyll tywydd.
Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i Gymru, gan roi £3.8bn i economi Cymru bob blwyddyn, diolch i'r hyn sydd gan y wlad i'w gynnig i ymwelwyr sy'n gallu bod yn sicr o groeso Cymreig gwych boed law neu hindda.
Ond dangosodd data diweddar gan Croeso Cymru fod tywydd gwael yn cael ei nodi gan 55% o fusnesau fel y rheswm dros lai o ymwelwyr yn haf 2024 – hyd yn oed cyn pwysau costau byw.
Yn yr un modd, nododd arolwg Domestic Sentiment Tracker dywydd y DU fel y prif ffactor sy'n atal pobl rhag cymryd gwyliau domestig.
Gallai'r grantiau felly gwmpasu amrywiaeth o fesurau fel canopïau, draenio cynaliadwy, ardaloedd eistedd wedi'u gorchuddio, llochesi i ymwelwyr neu lwybrau gwell ac arwynebau meysydd parcio.
Mae strategaeth twristiaeth Llywodraeth Cymru, Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-25' yn pwysleisio pwysigrwydd mynd i'r afael â tywydd tymhorol drwy hyrwyddo Cymru fel gwlad y gallwch ymweld â hi drwy gydol y flwyddyn.
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector dros y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys:
- Croeso Cymru: Cyllideb refeniw o £9m a chyllideb gyfalaf o £6 miliwn
- Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru sy’n werth £50 miliwn
- Cronfa Y Pethau Pwysig gwerth £5 miliwn
Am ragor o wybodaeth, dewisiwch y ddolen ganlynol: Cronfa newydd gwerth £1 miliwn i hybu twristiaeth Cymru ym mhob tywydd | LLYW.CYMRU