BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Zoë Binning

Zoë Binning Ltd.

Cysylltu gyda Zoë Binning



Zoë Binning
Swyddogaeth:
Rheolwr Busnes Lleoliad Priodas ac ymgynghorydd priodasau Cymreig
Sector:
Lleoliad:
Rhondda Cynon Taf

Amdano

Rwy’n entrepreneur yn y diwydiant priodasau, ac mae gennyf brofiad o fod yn rheolwr busnes ac ymgynghorydd lleoliadau priodas Cymreig. Yn ogystal â chynyddu nifer yr archebion priodasau a gyrru proffidioldeb ar gyfer lleoliadau priodas Cymreig, rwy’n arbenigo mewn gwasanaethau priodas cynaliadwy a moesol ac arfer gorau drwy fy nwy fenter busnes: Wild Roots Kitchen a Bar and Green Manatee.

Yn fwy eang na hynny, rwy’n teimlo’n gryf dros gefnogi lleoliadau priodas a chyplau wrth iddynt gymryd camau at arferion priodas mwy cynaliadwy, yn ogystal ag arwain lleoliadau i wasanaethu cyplau LGBTQ+ yn well.

  • Siaradwr Cyhoeddus – Materion Priodas a Chynaliadwyedd
  • Ymgynghorydd a Chyflenwr Priodasau Cynaliadwy
  • Arbenigwr Lleoliadau Priodas Cymreig yn White Label Catering
  •  Ymgynghorydd Priodas Profiadol
  • Rheoli Lleoliadau Priodas

Gair i Gall

1.    Mwynhewch eich gwaith! Os nad yw eich diddordeb a’ch brwdfrydedd yn gwneud i chi neidio o’r gwely yn y bore, hyd yn oed ar ddiwrnodau heriol, ni allwch oroesi!

2.    Mae’n RHAID i chi wneud eich gwaith yn well na phawb arall! Os nad chi yw’r gorau o fewn eich maes, dysgwch sut i fod ar y brig ac ewch amdani! Bob amser!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.