BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Wynne Evans

?
Swyddogaeth:
Mentor
Sector:
Lleoliad:
Wales

Amdano

Rydw i wedi bod yn gysylltiedig â busnesau bach a chanolig newydd-sefydledig am flynyddoedd lawer. Rydw i wedi bod yn fentor i nifer o sefydliadau yng Nghymru dros y 17 mlynedd diwethaf rydw i wedi bod yn gweithio mewn Llywodraeth Leol. Un o’m diddordebau allweddol oedd cymorth i'n heconomi a swyddi i’n pobl ifanc. Rydw i wedi ymwneud â 27 o fusnesau newydd, ac rydw i’n falch iawn o ddweud eu bod nhw i gyd yn dal i dyfu, a hynny’n gyson. Mae gen i nifer o gysylltiadau rhwydwaith, sy'n rhoi adnodd gwerthfawr i mi pan fyddaf angen arbenigedd mewn ystod o feysydd busnes.

Yn arbennig, rydw i’n mwynhau ymwneud â thwristiaeth, manwerthu, marchnata a syniadau mentrau gwledig. Mae bod yn fentor yn fy ngalluogi i gyfarfod pobl a rhannu syniadau er mwyn cynhyrchu busnes llwyddiannus a chynaliadwy.

Gair i Gall

Byddwch yn driw ac yn onest i chi eich hun.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.