BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

William Scott

Scott Waste Ltd
William Scott
Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Pen-y-bont ar Ogwr

Amdano

16 mlynedd o hunan gyflogaeth. Rwyf wedi cychwyn sawl cwmni ac wedi adeiladu gweithluoedd gyda strwythurau rheoli. Rwyf wedi datblygu strwythurau cwmni gyda chwmnïau dal a masnachu. Enillais Wobr Entrepreneur y Flwyddyn yn 2017. Profiad o ennill contractau awdurdod lleol, contractau cwmnïau cenedlaethol, cymdeithasau tai a chwmnïau broceriaeth. Rwyf wedi cychwyn a gweithredu ffrwd ddigidol fyw ac wedi tracio dyddiaduron ar draws ein tîm gydag anfonebu electronig, cardiau swyddi etc a gynhelir drwy ddyfeisiadau Android a swyddi wedi’u mapio dan reolaeth ganolog. Rwyf wedi rhentu a phrynu eiddo diwydiannol cwmnïau a’r cyfleustodau cysylltiedig, offer draenio a’r caniatâd cynllunio sydd ei angen wrth brynu. Profiad gyda phob agwedd ar gyflogi staff, sesiynau ymgynefino, Iechyd a Diogelwch, asesiadau risg, datganiadau dull, CThEF a threthiant, polisïau cwmni a hysbysebu. Rwyf wedi datblygu cynlluniau rheoli argyfwng ar gyfer busnes ac wedi gorfod eu gweithredu oherwydd afiechyd. Profiad gyda  thrwyddedau amgylcheddol a chynlluniau rheoli amgylcheddol. Rwyf wedi ysgrifennu a gweithredu cynlluniau ac astudiaethau twf busnes. Dros y blynyddoedd rwyf wedi gwella a datblygu fy sgiliau rhedeg busnes llwyddiannus o ddydd i ddydd.  

Cymwysterau:

Gradd anrhydedd BSc, WAMITAB lefel 4, Goruchwyliwr Gwastraff level 3, Rheoli’n Ddiogel IOSH, Ardystiad Diogelwch Safle, cymhwyster fforch godi Train the Trainer, Cymorth Cyntaf yn y Gwaith, cymhwyster tân/marsial, achrediad llinell Adeiladu, cofrestriad CHAS, cofrestriad Acclaim. 

Cryfderau · 

· arweinyddiaeth · gwasanaeth cwsmeriaid · logisteg · trosolwg strategol · adeiladu tîm 

Gair i Gall

Gwnewch yr hyn a ddywedoch yr ydych am ei wneud, am y pris a ddywedoch ac yn yr amser a ddywedoch ac mi fyddwch yn llwyddo. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.