BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Wesley Skene

WS Marketing

Cysylltu gyda Wesley Skene



Swyddogaeth:
Sylfaenydd
Sector:
Lleoliad:
Vale of Glamorgan

Amdano

Sefydlais WS Marketing yn 2005 wedi i mi gwblhau gradd BA a MSc mewn Marchnata.

Mae WS Marketing yn darparu – Cysylltiadau Cyhoeddus – Cyfryngau Cymdeithasol – Marchnata – Datblygu Strategaeth – Rheoli a Marchnata Digwyddiadau a Chreu Cynnwys Digidol

Yn 2008, sefydlais Wobrau Busnes De Cymru www.southwalesbusinessawards.co.uk a Gwobrau Ffitrwydd De Cymru www.southwalesfitnessawards.co.uk yn 2016

Hefyd, lansiais Cowbridge Business Club yn 2015 www.cowbridgebusinessclub.co.uk

Byddaf yn mwynhau canolbwyntio ar Gysylltiadau Cyhoeddus - y Cyfryngau Cymdeithasol - Digwyddiadau a Marchnata Digwyddiadau yn arbennig. O bosibl, dyma’r ffyrdd gorau a mwyaf effeithiol o dyfu brand a busnes. Ar y cyfan maent yn adnoddau sydd heb eu cyffwrdd ar gyfer busnesau Cymru, ac o’u defnyddio’n gywir gallent yrru busnes ymlaen i gynulleidfa fyd-eang.

Fel cyn Uwch Swyddog Gwybodaeth Busnes i Lygad Busnes ac Arweinydd Modiwl (Marchnata Digwyddiadau) ym Mhrifysgol De Cymru, rwyf wedi ennill dealltwriaeth gref o sut i ryngweithio gyda phobl o bob sector ac addasu a darparu gwybodaeth i gyd-fynd â’u gofynion.

Gair i Gall

Daliwch ati i symud ymlaen. Un dydd ar ôl y llall – y ffordd orau i gyflawni llwyddiant yw trwy weithio’n galed ar eich busnes ac ynddo. Yn gyffredinol, nid oes neb yn dod yn stori lwyddiant dros nos. Mae’n cymryd ymroddiad, amynedd a chefnogaeth dda i ddod yn llwyddiant.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.