BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Wendy Owen

Argraig Associates Ltd

Cysylltu gyda Wendy Owen


Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Isle of Anglesey

Amdano

Rwyf wedi cael gyrfa ryngwladol dros gyfnod o 35 mlynedd a mwy erbyn hyn, yn bennaf ym maes ymgynghori peirianneg, gyda chyfnodau ym meysydd rheoleiddio, datblygu cynnyrch ac ymchwilio hefyd. Rwy’n arbenigo mewn sectorau a reoleiddir yn gryf fel ynni, prosesu, amddiffyn a thrafnidiaeth.

Mae gennyf brofiad helaeth yn y byd technegol, busnes a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hyn yn cynnwys

  • Profiad technegol estynedig mewn ystod eang o sectorau peirianneg a phrosiectau
  • o fewn cwmnïau a chyflenwyr peirianneg, cynigion prosiect, datblygu cymunedau ymarfer, datblygu busnes, marchnata, strategaeth, rheoli tîm, hyfforddi etc.
  • Bod yn gynrychiolydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant dros Gymru gyfan

Yn gynnar yn fy ngyrfa, agorais swyddfa ranbarthol gyntaf y cwmni. Rwyf wedi cael llif incwm yn cynyddu o sero i filiynau o fewn ychydig o flynyddoedd sawl gwaith. Rwyf wedi sefydlu cymunedau ymarfer cymunedol mewn dau gwmni rhyngwladol.

Rwy’n Gymrawd etholedig o ddwy gymdeithas beirianneg broffesiynol ac yn Aelod achrededig o ddwy gymdeithas arall. Ar hyn o bryd rwy’n rhan o ddau bwyllgor llywio, un gweithgor ac yn cynnal adolygiadau cyfoed ar gyfer papurau cynadleddau i ddwy gymdeithas. Rwyf hefyd yn mentora myfyrwyr difreintiedig sydd wedi dewis gyrfa STEM.

Gair i Gall

Meddyliwch mewn ffordd wreiddiol, gan weld yr hyn sy’n bosibl, ond gan ddeall y risgiau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.