BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Tony Miles

Archwood Group
Swyddogaeth:
Is-gadeirydd
Sector:
Lleoliad:
Denbighshire

Amdano

Ar ôl treulio tri degawd mewn swyddi rheolaeth uwch ar lefel Cyfarwyddwr neu Brif Weithredwr mewn gweithgynhyrchu a dosbarthu pren yn y DU ac Iwerddon, mae hi’n amser i mi wneud defnydd o’r sgiliau yr wyf wedi’u datblygu er mwyn helpu busnesau i oresgyn rhai o’r rhwystrau y byddant yn eu hwynebu ar y daith. 

Rwyf ar hyn o bryd yn Is-gadeirydd y Grŵp Archwood, sy’n cynnwys tri brand, mae fy null arweinyddiaeth yn gynhwysfawr, ac rwyf yn ymdrechu i dywys y timau ar daith, gan orfod gwneud penderfyniadau anodd ar adegau. Rwyf wedi teithio’n rhyngwladol ar gyfer busnes, sydd wedi fy helpu i ddatblygu profiadau o ddiwylliannau gwahanol. 

Bydd strategaeth, cynllunio a chraffter masnachol, ynghyd â rheolaeth mewn marchnadoedd lle mae cynaliadwyedd yn annatod, gan symud ymlaen bellach gydag ESG wrth baratoi busnesau ar gyfer y dyfodol, yn hanfodol ar gyfer fentrau llwyddiannus.

O fewn y sector, rwyf wedi derbyn sawl apwyntiad masnachol ac rwyf wedi datblygu rhai o’r ysgolion rheoli busnes gorau, gan gynnwys Cranfield a Chaergrawnt.

Gair i Gall

Y llyfr gorau bu i mi ddarllen i’m helpu ar fy nhaith oedd ‘Leadership and Self-deception’. 

Rwyf wedi chwerthin llawer iawn mwy nag yr wyf wedi crio, ac mae hynny wedi bod yn bwysig.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.