BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Suzanne Wilcox

?

Cysylltu gyda Suzanne Wilcox


Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Sector:
Lleoliad:
Caerdydd

Amdano

Rydw i wedi bod yn gweithredu gyda busnesau sy’n chwilio am enillion, trosiant ac elw twf cyflym ac sy'n awyddus i symud ymlaen at gam nesaf eu rhaglenni ehangu busnes. Maen nhw angen cymorth proffesiynol i ganfod atebion busnes, cael gwared ar rwystrau a symud ymlaen a llwyddo i gyflawni’r nodau hynny. Rydw i’n rhoi cymorth a help iddyn nhw nodi gweledigaeth i'r dyfodol, potensial i dyfu a chyfeiriad ar gyfer cyflawni eu hamcanion a nodau busnes.

Mae fy mhrofiad mewn gweithgynhyrchu, prosesau a systemau darbodus, yn ogystal â phrosesau a systemau cyllid yn golygu fy mod i’n gallu cynnig gwybodaeth gwerth ychwanegol go iawn i fusnes yn ddi-oed.

Mae gen i radd mewn Peirianneg, gradd Meistr (MBA) ac ar ôl gweithio mewn diwydiant ers dros ugain mlynedd i gwmnïau yn cynnwys UTC Aerospace, Rolls Royce a Vauxhall Motors, rydw i wedi cael cryn lwyddiant yn gweithredu diwylliant o newid, gwella perfformiad busnes ac adeiladu timau a phrosesau ar bob lefel o ddiwydiant.

Gair i Gall

Gosodwch dwf a llwyddiant ar sylfeini cadarn yn eich busnes


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.