BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Steven Isaac

Access Lean Ltd

Cysylltu gyda Steven Isaac


Swyddogaeth:
Perchennog
Sector:
Lleoliad:
Vale of Glamorgan

Amdano

Fel sefydlydd Access Lean Ltd, rwyf yn arbenigo mewn trawsnewid busnesau. Rwy’n credu bod gonestrwydd wrth galon ymarfer busnes da bob amser, rwyf yn ymateb i anghenion unigol cleientiaid; yn gweithio fel ymgynghorydd busnes a hyfforddwr ar gyfer cwmnïau a sefydliadau hyfforddi, yn eu cefnogi wrth iddynt weithio tuag at effeithlonrwydd a rhagoriaeth.

Rwyf yn angerddol ynghylch datblygu sefydliadol; yn canolbwyntio ar helpu busnesau i fodloni eu hamcanion drwy yrru newid diwylliannol cynaliadwy. Rwyf wedi darparu rhaglenni i gwmniau uchel iawn eu clod – gan gynnwys Bosch, Kautec, Rockwool, SAS international and Thermo Fisher

Mae gen i dros dri degawd o brofiad gweithredol ymarferol; ar draws ystod eang o sectorau diwydiant, gan gynnwys awyrofod, modurol, cyfrifiadurol a meddygol (Gwyddorau Bywyd). Mae hyn wedi fy ngalluogi i fesur a deall anghenion strategol sefydliadau, cyn eu helpu i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Gair i Gall

Mae adborth cwsmeriaid yn holl bwysig ar gyfer llwyddiant busnes, sicrhewch eich bod yn gofyn am adborth oherwydd “hyd yn oed os credwch fod gennych fusnes da, does ond gwerth i hynny os cred eich cwsmeriaid yr un modd”


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.