BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Steve Huggett

IT Associates

Cysylltu gyda Steve Huggett



Steve Huggett
Swyddogaeth:
Perchennog Busnes
Sector:
Lleoliad:
Carmarthenshire

Amdano

Rwyf wedi bod yn helpu busnesau gyda TG ers 30 o flynyddoedd.

Rwyf wedi gweithio’n bennaf gyda BBaCh, ond rwyf wedi helpu pawb, o unigolion i Gwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus (CCC) sydd wedi’u cynnwys yn rhestr 100 FTSE, a Chorfforaethau Rhyngwladol.

Yn ystod y blynyddoedd hynny rwyf wedi gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau marchnad yn cynnwys B2B, Gweithgynhyrchu, Manwerthu, Cyfanwerthu, Elusennau, Adeiladu, Peirianneg, Hamdden, Modurol, Gwasanaethau Proffesiynol a Ffermio, i enwi ychydig yn unig.

Rhai Uchafbwyntiau

• Gosod busnesau ar Dudalen 1 ar Google gan ddefnyddio fy strategaethau

• Sefydlu a datblygu siopau ar Amazon ac eBay i’m Cleientiaid gan gynhyrchu elw o bron i 1m, a chael fy nghydnabod yn bersonol gan eBay a derbyn gwahoddiad i ymuno gyda’u Cyngor i Werthwyr

• Datblygu Offer Rheoli i Wester Power Plc.

• Creu system Cynllunio Gofynion Deunydd a Rhaglenni eraill i weithio gyda Sage Accounts.

• Hyfforddi nifer sylweddol o bobl i ddefnyddio meddalwedd dros y blynyddoedd

Yn aml, ceir nifer o ragdybiadau gyda TG a delio gyda chwmnïau neu ymgynghorwyr TG. Yn anffodus mae nifer yn cuddio y tu cefn i iaith dechnegol a geir gyda systemau, meddalwedd a chaledwedd. Nid fel hyn rwy’n mynd ati i weithio gyda busnesau. Yn ogystal â bod yn berson cyfeillgar, y sgil gorau sydd gennyf yw gwrando a deall y problemau sydd gan fusnes, ac nid cynnig datrysiad TG yn unig.

Rwy’n mwynhau gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau, ond mae’r busnesau hynny sydd eisiau defnyddio technoleg a chael y gorau ohono yn coroni’r cyfan. Mae gweithio mewn partneriaeth i greu systemau sy’n datrys problem neu’n gwella cynhyrchiant busnes, er mwyn tyfu ac amrywio, yn werth chweil, ac mae profi’r manteision ar ran y ddau barti yn amhrisiadwy.

Yn y byd sydd ohoni heddiw mae popeth yn cwmpasu o amgylch Data, Llwyfannau, Canlyniadau Periaint Chwilio ac algorythmau, ond ar ddiwedd y dydd mae’n rhaid i chi allu gwrando, gweld y datrysiad a dylunio system sy’n fanteisiol.

Gair i Gall

Ni wyddoch yr hyn na wyddoch nes bo rhywun yn ei ddangos i chi.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.