BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Paul Lewis

Hoop Recruitment

Cysylltu gyda Paul Lewis


Swyddogaeth:
CEO
Sector:
Lleoliad:
Caerdydd

Amdano

Fy enw i yw Paul Lewis, Prif Weithredwr a chyd-sylfaenydd Hoop Recruitment. 

Rwy’n falch o fod wedi arwain Hoop i ddod yn un o’r arbenigwyr recriwtio annibynnol mwyaf o ran maint a llwyddiant yng Nghymru. Rydym wedi ennill gwobrau, yn arwain y farchnad ac yn falch o gael ein henwi fel un o’r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru yn 2022, 2023 a 2024. Bu Hoop hefyd yn arwain y ffordd mewn ymgysylltiad gweithwyr, gan gael ei enwi fel cyflogwr y flwyddyn ar sawl achlysur.

O ran cyflawni, mae’r cwmni bellach yn derbyn rhwng £15 - £20 miliwn o drosiant y flwyddyn ac mae ganddo weledigaeth i ddyblu hyn yn y 5 mlynedd nesaf.

Yn 2024, trosglwyddodd Hoop i fod yn Ymddiriedolaeth sy’n Eiddo i’r Gweithwyr, rhywbeth yr wyf yn falch iawn ohono.

Yn bersonol, mae fy sgiliau craidd yn y meysydd canlynol:

  • Arweinyddiaeth
  • Strategaeth
  • Twf
  • Cynllunio olyniaeth
  • Trosglwyddo ymddiriedolaeth dan berchnogaeth gweithwyr

Gair i Gall

Mae angen y bobl orau o’ch cwmpas, cydnabod eich cryfderau a meysydd datblygu, a llenwi eich tîm gyda’r bobl sy’n cyd-fynd â’r cryfderau hynny.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.