BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Mark Tudor

Mark Tudor Consulting

Cysylltu gyda Mark Tudor



Mark Tudor
Swyddogaeth:
Perchennog
Sector:
Lleoliad:
Gwent

Amdano

Mae Mark yn Gyfarwyddwr Cwmni, yn ŵr graddedig MBA ac yn Farchnatwr Siartredig gyda llwyddiant profedig mewn rheoli cynnyrch, marchnata strategol a datblygu busnes strategol.

Mae gan Mark dros 25 o flynyddoedd o brofiad ym maes marchnata a gwerthu, mewn sectorau sy’n cynnwys telegyfathrebu, llywodraeth leol,  peirianneg  a dyfeisiau meddygol.

Mae gan Mark MBA o Brifysgol  Morgannwg a gradd BSc (Anrhydedd) mewn Gweinyddu Busnes o Brifysgol Cymru.

Yn ogystal â hyn, mae gan Mark ddiploma mewn Marchnata o’r Sefydliad  Marchnata Siartredig, Tystysgrif Ôl-radd mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy ac mae wedi bod yn rhan o’r Sefydliad  Marchnata Siartredig ers dros 24 o flynyddoedd.

Mae Mark yn Gymrawd o’r Sefydliad  Rheolaeth Siartredig ac mae ganddo Dystysgrif  Lefel 7 CMI mewn Rheoli ac Arwain Strategol.

Mae ei feysydd arbenigol yn cynnwys:

• Mynediad i’r Farchnad a  Strategaethau Twf

• Datblygu Busnes

• Rheoli Cynnyrch

• Strategaeth Marchnata

• Rheoli Tendrau a Chynigion

• Brandio a Chyfathrebu Marchnata

• Rheoli Cysylltiadau

• Dadansoddi’r Gadwyn Gwerth

Mae Mark yn mentora unigolion ar bob lefel o’r sefydliad ac mae’n gweithio gyda BBaChau i ddarparu datrysiadau twf cynaliadw.

Gair i Gall

Gwell byw un dydd fel llew na 1000 o flynyddoedd fel dafad…


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.