BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Mark Evans (MCIPD)

Fullbrook Solutions Ltd
Swyddogaeth:
Managing Director
Sector:
Lleoliad:
Powys

Gadewais Gyngor Sir Powys yn Chwefror 2019 ar ôl 27 mlynedd o wasanaeth. Fy swydd olaf gyda’r Cyngor oedd Cyfarwyddwr Adnoddau a chyn hynny roeddwn yn Bennaeth Gwasanaethau Busnes ers Ebrill 2013. Mae fy nghefndir proffesiynol mewn Adnoddau Dynol  a Chyflogres a chyn gweithio i’r Cyngor treuliais 7 mlynedd yn y sector breifat yn gweithio i Laura Ashley.

Yn ystod fy ngyrfa yn y Cyngor rwyf wedi bod yn gyfrifol am Adnoddau Dynol (AD),  Datblygu Sefydliadol (DS), TG, Caffael, Incwm a Gwobrwyo, Cymorth Busnes, Gwasanaeth Cwsmer, Cyfreithiol, Cyflogres a’r Gronfa Bensiwn.

 

Roeddwn hefyd yn arwain trawsnewid o fewn y Cyngor, yn enwedig mewn perthynas â gwella prosesau, ail-ddylunio gwasanaeth masnachadwyedd, gan gefnogi nifer o brosiectau trawsnewid allweddol, gan gynnwys caffael a gweithredu datrysiad integredig AD/Cyflogres gyntaf y Cyngor, gweithredu system di-arian parod ar gyfer ysgolion ac ail-ddylunio’r gwasanaeth Incwm a Gwobrwyo.

Yn ddiweddar rwyf wedi sefydlu fy musnes fy hun ‘Fullbrook Solutions Ltd’ y darparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys, Hyfforddi a Mentora, Gwella Prosesau Busnes, Cysylltiadau Cwsmeriaid Strategol a Hyfforddiant.

 

Mae gen i frwdfrydedd i wneud gwahaniaeth ac i ddarparu canlyniadau effeithiol a pherfformio i safon uchel, a gefais yn sgil  profiad uwch weithredol mewn swyddi Rheolaethol, Pennaeth Gwasanaeth a Chyfarwyddwr, mewn amrywiaeth o wasanaethau corfforedig dargyfeiriol, yn cymysgu darpariaeth ac effeithiolrwydd gweithredol gyda newid sylweddol a chymhleth.

 

Yn Awst 2011 deuthum yn Aelod Siartredig o CIPD. Rydw i’n hynod falch o fod yn Fentor i Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.