BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Maria McLean

?

Cysylltu gyda Maria McLean



Swyddogaeth:
Sector:
Lleoliad:
Conwy

Amdano

Rwyf wedi mwynhau gyrfa ryngwladol lwyddiannus mewn marchnata, rheoli digwyddiadau a rheoli cyfrifon - yn bennaf yn y diwydiannau gwestai a lletygarwch.

Rwy’n farchnadwr profiadol sydd wedi rheoli a datblygu timau gwerthu a marchnata. Y peth hanfodol i’w gofio yw mai pobl sy’n bwysig, mae timau’n bwysig. Rwyf wedi gweithio gyda thimau PLC mawr yn ogystal â busnesau bach, teuluol er mwyn datblygu’r busnes, a datblygu a gweithredu cynlluniau strategol.

Rwy’n wreiddiol o Surrey, ac mae gennyf ddiploma gan y Sefydliad Siartredig Marchnata a enillais ar adeg pan oedd pawb yn canolbwyntio ar y ffordd roedd hysbyseb yn edrych mewn print a doedd y rhyngrwyd yn ddim mwy na myth. Ar ôl gweithio yn Llundain, gweithio yn Efrog Newydd a threulio 13 blynedd yn byw yn ne Ffrainc, symudais yn ôl i ogledd Cymru yn 2017 ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda llond llaw o gleientiaid yn y diwydiannau bwyd a lletygarwch.

Arbenigedd: Gwneud i bethau da ddigwydd.

Gair i Gall

Byddwch yn garedig gyda chi’ch hun. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau. Derbyniwch y camgymeriad, dysgwch ohono a daliwch ati i symud ymlaen.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.